Adroddiad drafft gan y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

CSI2

 

Teitl: Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011

 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn creu swydd Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”). Mae adran 2 o'r Mesur yn darparu bod y Comisiynydd yn cael ei benodi gan Brif Weinidog Cymru. Wrth benodi'r Comisiynydd, mae Prif Weinidog Cymru o dan ddyletswydd i gydymffurfio â rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth ynghylch y penodiad (y cyfeirir atynt yn y Mesur fel “rheoliadau penodi”). Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau hyn i gydymffurfio â'u dyletswydd i wneud rheoliadau penodi. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnull panel ethol a'i aelodaeth. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn gan Brif Weinidog Cymru wrth benodi'r Comisiynydd a'r wybodaeth a'r hyfedredd yn y Gymraeg sy’n rhaid i berson a benodir yn Gomisiynydd ei chael neu ei gael.

 

Materion Technegol: Craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.

 

Rhagoriaethau: Craffu

O dan Reol Sefydlog 21.3[1], gwahoddir y Pwyllgor i dalu sylw arbennig i’r pwyntiau a ganlyn mewn perthynas â’r offeryn:

 

i)             Dyma’r rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan y Mesur. Cafodd y trefniadau ar gyfer penodi’r Comisiynydd eu trafod yn ystod y Trydydd Cynulliad gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a chan Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2, fel rhan o’u gwaith craffu ar y Mesur yn ystod cyfnod 1. Tynnodd y ddau bwyllgor sylw at y trefniadau penodi arfaethedig, gan nodi eu pryderon ynghylch annibyniaeth dybiedig y Comisiynydd. Yn benodol, wrth graffu ar y Mesur, nododd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 bryderon ynghylch creu sefyllfa lle y byddai’r Prif Weinidog yn penodi’r Comisiynydd. Argymhellodd y Pwyllgor mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddylai fod yn gyfrifol am benodi’r Comisiynydd.

ii)           Dywedodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yn ei adroddiad:

 

“58.   Ni chredwn ei bod yn rhan o’n cylch gwaith i wneud sylwadau o ran a yw’r trefniadau penodi yn yr achos hwn yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cyfeiriad gwleidyddol ac annibyniaeth. Fodd bynnag, credwn y bydd y mater hwn yn ffactor allweddol wrth sefydlu hygrededd y Comisiynydd ymhen amser. Credwn fod hwn yn faes lle y dylai Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol gael cyfle i ystyried a phenderfynu a yw’r trefniadau a gaiff eu cyflwyno yn y diwedd yn cyflawni’r cydbwysedd hwn. Am y rheswm hwn, credwn y dylai’r rheoliadau penodi perthnasol gael eu gwneud gan y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol.”

iii)          Er na chafodd yr argymhelliad a wnaed gan Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, cyflwynodd y Llywodraeth welliannau i’r Mesur arfaethedig yn dilyn hynny, er mwyn sicrhau bod y rheoliadau a fydd yn rheoli penodiad y Comisiynydd bellach yn cael eu gwneud gan ddefnyddio’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol. Mae Rheoliad 2(d) hefyd yn gwneud darpariaeth a fyddai’n galluogi pwyllgor perthnasol i enwebu Aelod Cynulliad i eistedd ar y panel dethol, er nad oes eglurder ynghylch sut y bydd hynny’n gweithio’n ymarferol.

iv)          Mae’r Rheoliadau yn diffinio “pwyllgor perthnasol” fel “un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr estynnir gwahoddiad iddo gan Weinidogion Cymru i enwebu.” Nid yw’r Rheoliadau yn darparu unrhyw ganllawiau ynghylch pa bwyllgor y caiff Gweinidogion wahodd i enwebu Aelod i eistedd ar y panel, ac mae’n bosibl y gallai anawsterau ymarferol godi os estynnir gwahoddiad ar adeg pan na fydd unrhyw bwyllgor mewn sefyllfa i wneud enwebiad (er enghraifft, oherwydd y toriad). Mae’n bosibl, felly, y bydd Aelodau am ofyn am eglurhad gan Weinidogion ynghylch sut y maent yn bwriadu rhoi’r ddarpariaeth hon ar waith yn ymarferol.

v)            Efallai y bydd y Pwyllgor am nodi bod paragraff 3(1) (b) o Atodlen 1 i’r Mesur yn datgan bod yn rhaid i’r Prif Weinidog roi ystyriaeth i argymhellion y panel dethol.

 

 Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Offerynnau Statudol

 

Mehefin 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Ymateb o ran Rhinweddau – Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y pryderon a godwyd gan Aelodau’r Cynulliad ynghylch penodi Comisiynydd y Gymraeg a’r weithdrefn ddeddfwriaethol ar gyfer y Rheoliadau.  Bydd y Rheoliadau hyn yn mynd drwy’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol ac maent yn darparu rôl i’r Cynulliad Cenedlaethol yn y broses sy’n arwain at benodi’r Comisiynydd gan y Prif Weinidog.

 

Bwriad y Llywodraeth fyddai gwahodd Pwyllgor y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am graffu ar faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg i enwebu Aelod o’r Cynulliad i eistedd ar y panel dethol.  Ond, rhag ofn na fydd Pwyllgor o’r fath yn bodoli, mae rheoliad 2(ch) wedi ei ddrafftio i ddarparu rhywfaint o hyblygrwydd i Weinidogion Cymru wahodd Pwyllgor arall i enwebu Aelod o’r Cynulliad.

 

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr angen i benodi Comisiynydd a’r angen o ganlyniad i alw panel dethol yn wybyddus ymlaen llaw. Felly, bydd y Llywodraeth hon yn cymryd camau i ohebu â’r Pwyllgor yn ystod tymor y Cynulliad. Ond, weithiau efallai bydd angen ysgrifennu at y Pwyllgor yn ystod  toriad.

 

 



[1]  RhS 21.3(ii) “ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.”